Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Mawrth 2023
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Helen Finlayson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.30 - 09.45)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
(09.45)
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
(09.45-10.30) (Tudalennau 1 - 48)
Jonathan Morgan, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Briff Ymchwil
Papur 1: Holiadur y gwrandawiad cyn penodi (Saesneg yn unig)
Papur 2: Ffurflen gais, CV a datganiad personol (Saesneg yn unig)
Papur 3: Briff Llywodraeth Cymru
Papur 4: Gwybodaeth i ymgeiswyr
3 Papurau i'w nodi
(10.30)
3.1 Llythyr oddi wrth Kyowa Kirin, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, Clwstwr y Gogledd, ynghylch blaenoriaethu Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru ar gyfer 2022-26
(Tudalennau 49 - 51)
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad o fwriad y polisi o ran Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
(Tudalennau 52 - 62)
3.3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
(Tudalennau 63 - 64)
3.4 Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ionawr 2023
(Tudalennau 65 - 67)
3.5 Rhagor o wybodaeth gan Cancer Research UK yn dilyn sesiwn tystiolaeth lafar yr ymchwiliad ar wasanaethau endosgopi ar 2 Chwefror 2023
(Tudalennau 68 - 74)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
(10.30)
5 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: trafod y dystiolaeth
(10.30-10.45) (Tudalennau 75 - 79)
Papur 5 - Adroddiad drafft
6 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
(10.45-11.45) (Tudalennau 80 - 91)
Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd
Leanne Roberts, Pennaeth Polisi Diwygio Caffael - Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mari Williams, Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth
Lowri Lewis, Cyfreithiwr y Llywodraeth
Papur briffio gan Ymchwil y Senedd
7 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): trafod y dystiolaeth.
(11.45-12.00)